Wyn Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 10 Gorffennaf 1930 ![]() Llansadwrn ![]() |
Bu farw | 13 Rhagfyr 2013 ![]() Rowen ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, newyddiadurwr ![]() |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol ![]() |
Tad | E. P. Roberts ![]() |
Mam | Margaret Ann Roberts ![]() |
Priod | Enid Williams ![]() |
Plant | Rhys Roberts, Huw Roberts, Geraint Roberts ![]() |
Gwobr/au | Marchog Faglor ![]() |
Gwleidydd Ceidwadol o Gymro oedd Ieuan Wyn Pritchard Roberts, Arglwydd Roberts o Gonwy (10 Gorffennaf 1930 – 13 Rhagfyr 2013).[1][2]
Fe'i ganwyd yn Llansadwrn, yn fab i'r Parchedig E.P. Roberts, gweinidog Methodist Calfinaidd ac awdur. Roedd ganddo frawd hŷn, Eifion Roberts. Enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Harrow pan oedd yn 14 oed. Ef oedd yr unig Gymro yno yr ysgol ar y pryd a gwnaeth enw iddo'i hun yn actio mewn dramâu. Enillodd ysgoloriaeth pellach i Goleg y Brifysgol, Rhydychen a chymerodd radd anrhydedd mewn hanes. Yn ystod ei wasanaeth milwrol bu'n gwasanaethu gyda'r "Special Intelligence" yn Awstria.[3] Yn 1964 roedd rhaid i TWW gymryd dros masnachfraint Teledu Cymru a daeth Wyn yn reolwr Cymru i TWW.