Wltramontaniaeth

Wltramontaniaeth
Enghraifft o:ideoleg wleidyddol, carfan meddwl Edit this on Wikidata

Wltramontaniaeth[1] (o'r Lladin ultramontanus, 'y tu draw i'r mynyddoedd', h.y. 'yn Yr Eidal') yw'r syniad neu duedd o fewn yr Eglwys Gatholig fod grym ac awdurdod y Pab a'r Curia Romana (llys eglwysig y Fatican) yn uwch nag unrhyw fudiad cenedlaethol neu genedlaetholgar, er enghraifft Galicaniaeth yn Ffrainc, neu awdurdod eglwysig lleol yn yr Eglwys.

Ystyrir fod wltramontaniaeth wedi cyrraedd ei huchafbwynt yn 1870 gyda datganiad yr athrawaeth fod awdurdod y Pab yn anffaeledig. Ond ers hynny mae'r eglwys wedi symud yn gyffredinol i'r cyfeiriad arall, gyda mwy o ryddid i awdurdodau eglwysig lleol ac eglwysi cenedlaethol neu ranbarthol, yn arbennig ers Ail Gyngor y Fatican (1962-1965).

  1.  wltramontaniaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 7 Ebrill 2025.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne